{"id":1504,"date":"2022-09-21T22:18:41","date_gmt":"2022-09-21T21:18:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.rayceredigion.org.uk\/?page_id=1504"},"modified":"2025-10-07T20:56:01","modified_gmt":"2025-10-07T19:56:01","slug":"canolfan-deulu-ray","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/gweithgareddau\/canolfan-deulu-ray\/","title":{"rendered":"Canolfan Deulu RAY: Cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i fabanod a phlant oed cyn-ysgol, rhieni a gofalwyr a Gr\u0175p Cefnogi Bwydo ar y Fron RAY\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth \u2018rydym yn neud<\/strong><strong> \u2026<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae Canolfan Deulu RAY yn darparu lle cynnes cyfeillgar a chroesawgar gyda gweithgareddau am ddim, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i blant, rhieni a gofalwyr yn ystod amser tymor a gwyliau ysgol. Ewch i\u2019n tudalen Facebook am y manylion diweddaraf o amser sesiynau a gweithgareddau <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/CanolfanDeuluolRAYFamilyCentre\">https:\/\/www.facebook.com\/CanolfanDeuluolRAYFamilyCentre<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae sesiynau\u2019n darparu byrbrydau iachus am ddim i rieni a phlant, ac yn dibynnu ar gyllid, gallant hefyd ddarparu cinio am ddim i bawb sy\u2019n mynychu. Croesawir brodyr a chwiorydd h\u0177n yn ystod gwyliau ysgol neu os ydynt yn derbyn addysg gartref.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae staff y Ganolfan Deulu yn gefnogol gyda chlust i wrando ac amser i ddal y babi neu ddifyrru\u2019r plentyn bach tra bod y rhieni neu gofalwyr yn cymryd seibiant. Mae staff wedi mynychu cyrsiau i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd, datblygiad corfforol iachus, rhianta positif, tylino babi a mwy a gallant rannu\u2019r dysgu yma mewn ffordd gefnogol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gr\u0175p Cefnogi Bwydo ar y Fron RAY&nbsp;<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Sefydlwyd y gr\u0175p yma ac fe\u2019i gynhelir gan mamau sy\u2019n gwirfoddoli ac wedi\u2019i hyfforddi trwy RAY yn unol \u00e2 chanllawiau gweithwyr iechyd proffesiynol lleol. Mae\u2019r gr\u0175p yn cyfarfod yn wythnosol ochr yn ochr \u00e2 sesiwn sesiwn Canolfan Deulu, ac mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y gr\u0175p.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y manteision<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfle cymdeithasol i rieni, gofalwyr, neiniau a theidiau a\u2019r plant maent yn dod gyda nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Cael paned poeth o d\u00ea neu goffi ac amser i\u2019w yfed \u00a0(dyma\u2019r fantais a ddyfynnir amlaf gan oedolion sy\u2019n mynychu!)<\/li>\n\n\n\n<li>Cwrdd \u00e2 phobl gyda phlant o oedran tebyg a rhannu profiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Medru cael sgwrs gyda staff Canolfan Deulu sydd \u00e2 chysylltiadau i ystod eang o asiantaethau chefnogi gan gynnwys Ymwelwyr Iechyd, Cynghorwyr Effeithlonrwydd Ynni, Rhaglenni Rhianta, T\u00eem staff Iaith a Lleferydd, y cyfan o fewn amgylchedd gefnogol<\/li>\n\n\n\n<li>Help gydag adnabod pa asiantaethau eraill sydd ar gael i deuluoedd yn y Sir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dyfyniadau<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><em>Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych wedi dysgu i mi ers dechrau yma yn fabi. Ni fyddem wedi bod mor hyderus yn mynd i\u2019r ysgol fawr hebddoch. Fe wnaethoch ddysgu gwersi gwerthfawr y byddaf yn parhau i\u2019w defnyddio. Diolch am fod yn ffrindiau i mi pob amser a fy nghroesawi gyda breichiau agored. (Rhiant ar ran plentyn)<\/em><\/li>\n\n\n\n<li><em>\u2018Rwyf wedi bod yn dod i RAY ers bod fy mab canol yn blentyn bach ac yn awr dwi\u2019n dod gyda fy ifancaf sydd yn mwynhau\u2019n fawr. Mae\u2019n ffantastig i weld cinio\/byrbrydau am ddim i\u2019r rhieni a\u2019r plant, mae hyn o help mawr ond hefyd yn ffordd dda i\u2019r rhieni gymysgu.Mae\u2019r croeso gan y staff yn ardderchog, \u2018rwy\u2019n edrych mlaen i ddod pob wythnos am sgwrs a phaned. Mae fy mab pob amser yn teimlo\u2019n hapus a\u2019n cael ei garu pan mae\u2019n dod, ac mae RAY wedi dod yn rhan o\u2019n trefn wythnosol. (Rhiant)<\/em><\/li>\n\n\n\n<li><em>Wrth fy modd gyda\u2019r awyrgylch a\u2019r sgwrsiau, adnoddau gwych a byrbrydau (Nain\/Taid)<\/em><\/li>\n\n\n\n<li><em>Dwi\u2019n caru\u2019r lle hwn yn llwyr. Nid oes gennyf llawer o deulu yn lleol ac mae dod i aros a chwarae yn gyfle gwych i siarad ag eraill ac ei gael ef o gwmpas plant eraill hefyd. Yn ariannol, mae\u2019n help mawr, ac mae\u2019r tatws pob yn flasus iawn, yn enwedig ar \u00f4l nyrsio. Mae\u2019n well gennyf y gosodiad hwn dros gr\u0175piau lleol eraill sy\u2019n cymryd lle mewn neuaddau eglwys mawr sy\u2019n oer a gydag adlais.Gosodiad clyd yn canolbwyntio ar y teulu sy\u2019n fy ngwneud i deimlo\u2019n fwy hamddenol, yn enwedig gan fy mod yn riant gyda salwch cronig \u2026 Diolch<\/em><\/li>\n\n\n\n<li><em>Mae\u2019r staff mor gyfeillgar a chroeawgar. Mae wir wedi helpu fy mhlentyn i ddod allan o\u2019i chragen yn ystod y flwyddyn diwethaf. Hefyd, nid yw\u2019n gallu cael cynhyrch llaeth ac felly mae mor neis eu bod yn gwneud tost iddi gyda lledaeniad di-laeth amser byrbryd, mae\u2019n golygu nid oes rhaid i mi ofidio ac rydym yn teimlo cymaint o groeso. Diolch! \u00a0<\/em><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Am ragor o fanylion, ewch i dudalen <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/search\/top?q=canolfan%20deuluol%20ray%20family%20centre\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Facebook Canolfan Deulu RAY<\/a> A thudalen <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/Nyth-Y-Fron-104011735228162\/?ref=py_c\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Facebook Nyth y Fron<\/a><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\"><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth \u2018rydym yn neud \u2026 Mae Canolfan Deulu RAY yn darparu lle cynnes cyfeillgar a chroesawgar gyda gweithgareddau am ddim, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i blant, rhieni a gofalwyr yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1462,"parent":276,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1504","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1504","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1504"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1504\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2026,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1504\/revisions\/2026"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/276"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1462"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/rayceredigion.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1504"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}