DYMA NI: Grŵp ar gyfer oedolion ifanc sy’n byw gydag anableddau

Beth ‘rydym yn neud

Mae DYMA NI yn darparu lle cynnes cyfeillgar a chynhwysol i oedolion ifanc gydag anableddau, yn enwedig i’r rhai sydd wedi gorffen addysg llawn amser. Mae’r grŵp yn cyfarfod ddwy waith yr wythnos ar dydd Mawrth a dydd Iau 10yb-2.30yp.

Mae’r gweithgareddau’n dilyn diddordebau aelodau’r grŵp, yn gynhwysol ac wedi eu addasu i gwrdd ag anghenion a galluoedd unigolion. Mae gweithgareddau wedi cynnwys gwneud ffilm, cerdded,nofio, pêl fasged, caraoce, gwneud cerddoriaeth byw, gwaith amgylcheddol, coginio, tyfu a gwerthu planhigion, cynnal llain, drama,  Tai Chi a dawns, ysgrifennu barddoniaeth ac adrodd a llawer mwy.

Cynhelir Gardd Bywyd Gwyllt a thŷ gwydr RAY gan aelodau DYMA NI sy’n gwerthu cynnyrch dros ben, a diolch i gyswllt buddiol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys gwneud Bwganod Brain ar gyfer Gŵyl Bwgan Brain, a wedi cymryd drosodd un o 10 o leuniau cymunedol i dyfu bwyd i’w goginio yn RAY.  

Y Manteision

  • Cyfeillgarwch a chysylltiadau cymdeithasol
  • Sgiliau bywyd a chymdeithasol
  • Adeiladu hyder ac annibyniaeth
  • Dysgu gydol oes
  • Hunan-fynegiant

Dyfyniadau…

Os byddai Dyma Ni arno 5 diwrnod yr wythnos, byddai’n dod 5 diwrnod yr wythnos a byw ei fywyd gorau” (Rhiant)

Mae Dyma Ni yn fy ngwneud i’n hapus a dwi’n cael hwyl (aelod DYMA NI)

O fod â dim diddordeb mewn coginio, mae hi nawr yn dod adre a choginio pryd o fwyd i’r teulu o’r dechrau, sgiliau mae wedi dysgu yn DYMA NI. (Rhiant)Nid wyf yn gwybod beth byddwn yn neud heb y 2 ddiwrnod yr wythnos, cyn DYMA NI nid oedd ganddo reswm i ddod allan o’r gwely, yn anaml byddai’n gadael y tŷ.  Nawr mae ganddo grŵp mawr o ffrindiau, mae nhw’n cwrdd lan yn annibynol o’r sesiynau wythnosol, ac nid yw’n gorliwio i ddweud ei fod nid yn unig wedi newid ei fywyd ef, ond un minnau hefyd. Rydym i gyd gymaint yn hapusach (Parent)