Gall RAY Ceredigion gynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gyda babanod, plant a phlant yn eu harddegau, oedolion, anableddau, pobl hŷn, gyda’n fan allan yn y gymuned ac yn ein Caffi Trwsio yn helpu i drwsio eitemau cartref. Mae yna gyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli’n yr awyr agored ac o dan do, gwaith swyddfa i arddio, darparu gweithdai creadigol – ‘rydym yn darparu lleoliadau ar gyfer gwirfoddolwyr o bob oedran a gallu, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i gyfle sydd yn addas i’ch diddordebau a’ch argaeledd.
Y manteision
- Gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned
- Rhannu eich sgiliau a diddordebau gydag eraill
- Dysgu rhai sgiliau newydd a chael mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant am ddim
- Cyfarfod â phobl newydd
- Roedd derbyn y garden Nadolig wedi’i ysgrifennu â llaw ac o galon yn wirioneddol hyfryd a roedd y dystysgrif gydag oriau wedi gwirfoddoli hefyd yn sbeshal iawn. ‘Rwyf wedi gwirfoddoli i sawl sefydliad ac mae RAY wir yn dangos eu gwerthfawrogiad i’w gwirfoddolwyr sy’n meddwl llawer.
Mae gennym amrediad eang o weithgareddau y medrwch wirfoddoli:
| DYMA NI RAY a Chlwb Cymdeithasol RAY | Cefnogi Staff RAY gyda gweithgareddau wythnosol ar gyfer oedolion ifanc oed 17-30 gydag anableddau, gan gynnwys garddio,coginio,gwaith coed, celf a mwy a/neu cefnogi Clwb Cymdeithasol misol RAY ar nos Wener. | Dyma Ni- 10yb – 2yp pob dydd Mawrth a dydd Iau Clwb Cymdeithasol- y dydd Gwener 1af o phob mis 6yh – 9yh |
| Canolfan Deulu RAY | Cefnogi Staff RAY i ddarparu sesiynau galw i mewn, chwarae brwnt, canu,coginio, chwarae’n yr awyr agored i deuluoedd, babanod, a phlant oed cyn-ysgol | Sesiynau wythnosol yn ystod y dydd |
| Mynediad Agored RAY Sesiynau Chwarae Awyr Agored yn y Gymuned | Cefnogi ein tîm o weithwyr chwarae i ddarparu chwarae’n yr awyr agored mewn cymunedau gan gynnwys Aberteifi, Llandysul, Llanbedr pont Steffan a Phenparcau | Gwyliau ysgol |
| Clwb Ieuenctid Actif RAY | Yn cefnogi ein tîm gwaith ieuenctid RAY i ddarapru sesiynau wythnosol ar ôl ysgol, ar benwythnosau a gwyliau ysgol. Mae gennym grwpiau ar gyfer amrediad oedran cynradd ac uwchradd | Ar ôl ysgol dydd Llun, Mawrth a Mercher yn ystod amser tymor + dydd Llun -dydd Iau yn ystod gwyliau ysgol. |
| Clwb cefnogi dementia Cwlwm Cof RAY | Dewch draw i gefnogi ein Cydlynydd gyda’r grŵp yma ar gyfer pobl gyda dementia a’i gofalwyr | Yn wythnosol ar ddydd Gwener yn dechrau am 10.30 |
| Gardd Bywyd Gwyllt RAY | Dewch draw i’n helpu i ddatblygu ein gardd bywyd gwyllt | mewn bod |
| Caffi Trwsio Aberaeron yn RAY | Rydym yn edrych am wirfoddolwyr gyda sgiliau trwsio eitemau trydanol, gwaith coed, sgiliau gwnïo, beiciau a mwy – i fynychu’r caffi trwsio wythnosol yn ogystal â rhywun ar y dydd Iau 1af o phob mis 11yb-2yp sy’n medru gwneud Prawf PAT a gwirfoddolwr i helpu drefnu’r sesiynau wythnosol | Y dydd Sadwrn 1af o phob mis 10-1 |
| Swyddfa RAY a gweinyddu | Croesawir cefnogaeth gwirfoddolwyr yn ein swyddfa gyfeillgar | Oriau swyddfa dydd Llun i ddydd Gwener |
‘Rwy’n credu fod RAY Ceredigion yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i bobl yn yr ardal, hen ac ifanc fel ei gilydd. Yn y grŵp dwi’n gwirfoddoli ynddo, mae’n glir faint o amser maent yn treulio gyda’u gilydd, cymdeithasu hyd yn oed unwaith yr wythnos yn unig, mae’n hynod fuddiol i ddefnyddwyr y gwasanaeth
Rydych wedi rhoi cipolwg i mi o beth gall ei wneud gyda sefydliad sy’n cael ei gefnogi gan wirfoddolwyr.Mae RAY yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i’r gymuned o ddosbarthiadau a gwybodaeth rhianta i grŵp dementia
Ymdeimlad da o gymuned; staff cyfeillgar a chymwynasgar. Mae hyfforddiant a chefnogaeth yn dda
Sut i Wirfoddoli
Cysylltwch â Chydlynydd Gwirfoddoli RAY Ceredigion trwy ebost neu ffôn
rayvolunteering@rayceredigion.org.uk 07500802590,
‘Rydym yn gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr ga neu bod yn rhan sylfaenol o’n sefydliad.
Dewch i fod yn rhan o’n tîm heddiw!

