Beth ‘rydym yn neud …
Mae Canolfan Deulu RAY yn darparu lle cynnes cyfeillgar a chroesawgar gyda gweithgareddau am ddim, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i blant, rhieni a gofalwyr yn ystod amser tymor a gwyliau ysgol. Ewch i’n tudalen Facebook am y manylion diweddaraf o amser sesiynau a gweithgareddau https://www.facebook.com/CanolfanDeuluolRAYFamilyCentre
Mae sesiynau’n darparu byrbrydau iachus am ddim i rieni a phlant, ac yn dibynnu ar gyllid, gallant hefyd ddarparu cinio am ddim i bawb sy’n mynychu. Croesawir brodyr a chwiorydd hŷn yn ystod gwyliau ysgol neu os ydynt yn derbyn addysg gartref.
Mae staff y Ganolfan Deulu yn gefnogol gyda chlust i wrando ac amser i ddal y babi neu ddifyrru’r plentyn bach tra bod y rhieni neu gofalwyr yn cymryd seibiant. Mae staff wedi mynychu cyrsiau i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd, datblygiad corfforol iachus, rhianta positif, tylino babi a mwy a gallant rannu’r dysgu yma mewn ffordd gefnogol.
Grŵp Cefnogi Bwydo ar y Fron RAY
Sefydlwyd y grŵp yma ac fe’i gynhelir gan mamau sy’n gwirfoddoli ac wedi’i hyfforddi trwy RAY yn unol â chanllawiau gweithwyr iechyd proffesiynol lleol. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol ochr yn ochr â sesiwn sesiwn Canolfan Deulu, ac mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y grŵp.
Y manteision
- Cyfle cymdeithasol i rieni, gofalwyr, neiniau a theidiau a’r plant maent yn dod gyda nhw
- Cael paned poeth o dê neu goffi ac amser i’w yfed (dyma’r fantais a ddyfynnir amlaf gan oedolion sy’n mynychu!)
- Cwrdd â phobl gyda phlant o oedran tebyg a rhannu profiadau
- Medru cael sgwrs gyda staff Canolfan Deulu sydd â chysylltiadau i ystod eang o asiantaethau chefnogi gan gynnwys Ymwelwyr Iechyd, Cynghorwyr Effeithlonrwydd Ynni, Rhaglenni Rhianta, Tîm staff Iaith a Lleferydd, y cyfan o fewn amgylchedd gefnogol
- Help gydag adnabod pa asiantaethau eraill sydd ar gael i deuluoedd yn y Sir
Dyfyniadau
- Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych wedi dysgu i mi ers dechrau yma yn fabi. Ni fyddem wedi bod mor hyderus yn mynd i’r ysgol fawr hebddoch. Fe wnaethoch ddysgu gwersi gwerthfawr y byddaf yn parhau i’w defnyddio. Diolch am fod yn ffrindiau i mi pob amser a fy nghroesawi gyda breichiau agored. (Rhiant ar ran plentyn)
- ‘Rwyf wedi bod yn dod i RAY ers bod fy mab canol yn blentyn bach ac yn awr dwi’n dod gyda fy ifancaf sydd yn mwynhau’n fawr. Mae’n ffantastig i weld cinio/byrbrydau am ddim i’r rhieni a’r plant, mae hyn o help mawr ond hefyd yn ffordd dda i’r rhieni gymysgu.Mae’r croeso gan y staff yn ardderchog, ‘rwy’n edrych mlaen i ddod pob wythnos am sgwrs a phaned. Mae fy mab pob amser yn teimlo’n hapus a’n cael ei garu pan mae’n dod, ac mae RAY wedi dod yn rhan o’n trefn wythnosol. (Rhiant)
- Wrth fy modd gyda’r awyrgylch a’r sgwrsiau, adnoddau gwych a byrbrydau (Nain/Taid)
- Dwi’n caru’r lle hwn yn llwyr. Nid oes gennyf llawer o deulu yn lleol ac mae dod i aros a chwarae yn gyfle gwych i siarad ag eraill ac ei gael ef o gwmpas plant eraill hefyd. Yn ariannol, mae’n help mawr, ac mae’r tatws pob yn flasus iawn, yn enwedig ar ôl nyrsio. Mae’n well gennyf y gosodiad hwn dros grŵpiau lleol eraill sy’n cymryd lle mewn neuaddau eglwys mawr sy’n oer a gydag adlais.Gosodiad clyd yn canolbwyntio ar y teulu sy’n fy ngwneud i deimlo’n fwy hamddenol, yn enwedig gan fy mod yn riant gyda salwch cronig … Diolch
- Mae’r staff mor gyfeillgar a chroeawgar. Mae wir wedi helpu fy mhlentyn i ddod allan o’i chragen yn ystod y flwyddyn diwethaf. Hefyd, nid yw’n gallu cael cynhyrch llaeth ac felly mae mor neis eu bod yn gwneud tost iddi gyda lledaeniad di-laeth amser byrbryd, mae’n golygu nid oes rhaid i mi ofidio ac rydym yn teimlo cymaint o groeso. Diolch!
Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Facebook Canolfan Deulu RAY A thudalen Facebook Nyth y Fron

