Mae Canolfan Deulu RAY yn darparu gweithgareddau am ddim ar gyfer rhieni, gofalwyr a phlant ar ddydd Llun, Mawrth a Mercher drwy amser tymor ac yn ystod gwyliau ysgol. Mae gennym ddau o sesiynau galw-mewn Aros a Chwarae RAY ar fore Llun a phrynhawn dydd Mercher, ac amrywiaeth o weithgareddau eraill ar draws y tri diwrnod. Mae gwirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi yn darparu grwp galw-mewn bwydo ar y fron, Nyth y Fron ar fore dydd Llun, mae gan y Ganolfan Deulu sesiynau ar dylino babi, sesiynau i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd, sesiynau symud a rhigoli i hyrwyddo gweithgaredd corfforol, sesiynau synhwyro babi, gweithgareddau coginio a celf a chrefft. Mae gweithgareddau gwyliau ysgol yn croesawi siblingiaid hŷn yn ogystal â babanod a phlant cyn oedran ysgol. Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Facebook Canolfan Deulu RAY A thudalen Facebook Nyth y Fron