Mae RAY Actif ar gyfer rhai oed 11 – 19 yn rhedeg ar ôl ysgol ar ddydd Llun a Mawrth ac yn ystod gwyliau ysgol ac yn anelu i adeialdu hyder, cyfeillgarwch a chyflwyno sgiliau a diddordebau newydd. Mae aelodau o’r grŵp yn gwirfoddoli yng Nhanolfan Bywyd Gwyllt Môr Bae Ceredigion ac mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cerddoriaeth – mae aelodau o’r grŵp wedi chwarae’n fyw mewn digwyddiadau lleol, celf creadigol, byw yn y gwyllt, celf traeth a choginio. Mae entrepreneuriaid lleol wedi darparu darlithoedd yn ogystal ag asiantaethau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc er enghraifft Cwmni Theatr Arad Goch, gweithwyr iechyd Iechyd Da, ymgynghorwyr ariannol ac hyfforddwyr llesiant. Rydym yn croesawi gwirfoddolwyr i helpu gyda gweithgareddau.