DYMA NI: Grŵp ar gyfer oedolion ifanc sy’n byw gydag anableddau

Beth ‘rydym yn neud

Mae DYMA NI yn darparu lle cynnes cyfeillgar a chynhwysol i oedolion ifanc gydag anableddau, yn enwedig i’r rhai sydd wedi gorffen addysg llawn amser. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol yn RAY.

Mae’r gweithgareddau’n dilyn diddordebau aelodau’r grŵp, yn gynhwysol ac wedi eu addasu i gwrdd ag anghenion a galluoedd unigolion. Mae gweithgareddau wedi cynnwys gwneud ffilm, cerdded,nofio, pêl fasged, caraoce, gwneud cerddoriaeth byw, gwaith amgylcheddol, coginio, tyfu a gwerthu planhigion, cynnal llain, drama,  Tai Chi a dawns, ysgrifennu barddoniaeth ac adrodd a llawer mwy.

Cynhelir Gardd Bywyd Gwyllt a thŷ gwydr RAY gan aelodau DYMA NI sy’n gwerthu cynnyrch dros ben, a diolch i gyswllt buddiol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, mae’r grŵp wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys gwneud Bwganod Brain ar gyfer Gŵyl Bwgan Brain, a wedi cymryd drosodd un o 10 o leuniau cymunedol i dyfu bwyd i’w goginio yn RAY.  

Y Manteision

  • Cyfeillgarwch a chysylltiadau cymdeithasol
  • Sgiliau bywyd a chymdeithasol
  • Adeiladu hyder ac annibyniaeth
  • Dysgu gydol oes
  • Hunan-fynegiant

Dyfyniadau…

Os byddai Dyma Ni arno 5 diwrnod yr wythnos, byddai’n dod 5 diwrnod yr wythnos a byw ei fywyd gorau” (Rhiant)

Mae Dyma Ni yn fy ngwneud i’n hapus a dwi’n cael hwyl (aelod DYMA NI)

O fod â dim diddordeb mewn coginio, mae hi nawr yn dod adre a choginio pryd o fwyd i’r teulu o’r dechrau, sgiliau mae wedi dysgu yn DYMA NI. (Rhiant)Nid wyf yn gwybod beth byddwn yn neud heb y 2 ddiwrnod yr wythnos, cyn DYMA NI nid oedd ganddo reswm i ddod allan o’r gwely, yn anaml byddai’n gadael y tŷ.  Nawr mae ganddo grŵp mawr o ffrindiau, mae nhw’n cwrdd lan yn annibynol o’r sesiynau wythnosol, ac nid yw’n gorliwio i ddweud ei fod nid yn unig wedi newid ei fywyd ef, ond un minnau hefyd. Rydym i gyd gymaint yn hapusach (Parent)