Beth ‘rydym yn neud…
Mae RAY Actif ar gyfer rhai oed 6 i 11 yn rhedeg ar ddydd Mercher ar ôl ysgol yn ystod amser tymor, ac un diwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol.
‘Rydym yn darparu lle diogel i blant sydd efallai’n gwynebu heriau, gyda staff wedi eu hyfforddi mewn gwaith chwarae. Mae gennym weithgareddau am ddim sy’n dilyn diddordebau plant ac sy’n cynnwys byw yn y gwyllt, pyllau glan môr, adeiladu lle cuddio, coginio, gwaith coed a theithiau allan i leoedd lleol o ddiddordeb. ‘Rydym yn darparu byrbrydau iachus a pryd o fwyd am ddim ymhob sesiwn gan helpu teuluoedd mewn Sir sydd gyda’r ail gyfradd uchaf o Dlodi Plant yng Nghymru.
Mae llefydd yn gyfyngedig ar gyfer y grŵp yma gyda rhestr aros, felly os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau.
Y manteision
- Adeiladu ffydd a hyder, cyfeillgarwch, sgiliau a diddordebau newydd
- Cefnogi iechyd a lles plant a’r teulu estynedig
Dyfyniadau…
Byddaf yn cadw i ddod i RAY am BYTH (10 oed)
Mae nhw’n cael cinio hefyd, mae hynna’n anhygoel, Diolch” (Rhiant)
Gwelais fy ffrind yn yr ysgol a dywedodd pa ddiwrnod yw hi fory? Dywedais i dydd Mercher ac fe ddywedodd hi diwrnod RAY! Ac fe wnaeth y ddwy ohonom ddweud Hwrê!!’ ” (7 oed)
Mae mynychu wedi bod yn dda iawn i’w lles, mae wedi bod yn cael trafferth yn yr ysgol ac mae’r clwb yma wedi gwneud gwahaniaeth ym mha mor dda mae’n ymdopi, mae wedi rhoi ei hyder yn ôl iddi (Rhiant)
Trwy fy mhlant yn mynychu Actif Iau, fe ddes i adnabod y staff a mynychu cwrs magu plant, roedd hyn yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr beth wnaeth i fi a fy nheulu (Rhiant)

