RAY Actif: Clwb Ieuenctid ar gyfer rhai oed 11 i 18

Beth ‘rydym yn neud …

Ariennir RAY Actif gan Blant mewn Angen, ac mae’n darparu lle diogel i rai oed 11 i 18 gydag amgylchedd sy’n gynhwysol, gefnogol ac yn dilyn diddordebau’r pobl ifanc sy’n mynychu. Cynhelir sesiynau ar ddydd Mawrth a dydd Iau 3.30-6yp yn amser tymor a 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol.    

Mae RAY Actif yn le diogel a chroesawgar i fobl ifanc ddod i hongian allan gyda ffrindiau, cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys celf, coginio, prosiectau amgylcheddol, gwaith coed, dawnsio, gêmau a cherddoriaeth. ‘Rydym yn darparu byrbrydau iachus a pryd o fwyd am ddim ymhob sesiwn

Mae’r Clwb Celf Ieuenctid lleol Celf Aeron yn cynnal sesiynau ar ôl ysgol ar ddydd Llun a dydd Gwener gan ddefnyddio adeilad RAY, medrwch weld eu manylion ar dudalen Facebook Celf Aeron Art https://www.facebook.com/AeronArtspage/

Y Manteision

  • Adeiladu ffydd a hyder
  • Creu a chefnogi cyfeillgarwch
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd

Dyfyniadau…

Mae’n teimlo’n ddiogel yn RAY” (Rhiant)“Dwi wrth fy modd yn RAY, gallwn fod yn ni’n hunain yn unig (14 oed)

Byddem yn dod yma pob dydd os y medrwn (16 year old)

Mae mor bwysig fod gan pobl ifanc y cyfleoedd cymdeithasol yma gan nid oes llawer mewn Sir mor wledig, ac mae RAY Actif wir yn linell gymorth bywyd . (Rhiant)

Rydych wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, cyn dod yma roedd yn ei chael hi’n anodd iawn, nawr mae’n berson ifanc gwahanol.” (Athro Ysgol Uwchradd)“Byddem yn hapus i gysylltu â nhw nawr,dwi’n gwybod beth mae nhw’n ei wneud. (15 oed ar ôl sesiwn RAY Actif a fynychwyd gan wasanaethau cam-drin domestig a chamddefnyddio chyffuriau)