Mae’r grŵp cefnogi dementia Cwlwm Côf RAY yn le diogel a chroesawgar ar gyfer rhai sydd ganddynt dementia a’u gofalwyr. Mae’r grŵp yn cyfrafod yn wythnosol ar ddydd Gwener am 10.30-1yp ac fe drefnir gweithgareddau i gwrdd â gofynion a diddordebau y rhai sy’n mynychu, gan gynnwys coginio, celf a chrefft, canu a theithiau achlysurol i leoedd o ddidordeb lleol gan ddefnyddio bws mini RAY. Rydym yn croesawi gwirfoddolwyr i helpu gefnogi’r aelodau sy’n mynychu ac fe fyddem yn arbennig yn hoffi recriwtio gwirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg.