Cwlwm Côf RAY: Grŵp Cefnogi i rai sydd ganddynt dementia a’u gofalwyr

Beth ‘rydym yn neud

Mae grŵp cefnogi Cwlwm Côf RAY yn le diogel a chroesawgar i rai sydd ganddynt demantia a’u gofalwyr. 

Mae’r grŵp yn cwrdd pob wythnos ar ddydd Gwener o 10.30-1.30yp ac mae’r gweithgareddau wedi eu trefnu i gwrdd ag anghenion a diddordebau’r rhai sy’n mynychu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai celf a chrefft, adloniant creadigol a chyd-ganu, teithiau achlysurol i lefydd o ddidordeb lleol, chwarae dewis o gêmau bwrdd fel dominos, croce dan do a gwersi coginio. Ymweliadau misol gan ofalwyr proffesiynol yn cynnig cyngor ac arweiniad. Mae’r grŵp yn gyfle i ddatblygu cyfeillgarwch newydd a darparu cefnogaeth i’w gilydd.

Y Manteision  

  • Rhwydwaith cymorth cyfoedion croesawgar lle gall gofalwyr a’r rhai sydd ganddynt  dementia gwrdd i sgwrsio gydag eraill sy’n deall eu heriau.
  • Cyfle i’r gofalwr i ymlacio gan wybod fod ein tîm anhygoel o wirfoddolwyr ar gael i gynnig cefnogaeth trwy dod i adnabod y person sydd â dementia, darganfod beth mae nhw’n ei hoffi a’u diddordebau, a sgwrsio a gwneud gweithgareddau â nhw tra bod y gofalwr yn cymryd anadl.  
  • Mynediad i amrywiaeth o asiantaethau cymorth sydd yn medru darparu gwasanaethau mwy arbennigol ac unigoledig .
  • Tîm ardderchog o staff a gwirfoddolwyr sy’n darparu cefnogaeth i’r gofalwr a’r person sydd â dementia.

Dyfyniadau…

Mae’n grêt i fod yma. Cariwch ymlaen fel yr ydych (Gofalwr)

Mae’r grŵp yma wedi bod yn achubwr bywyd i mi fel gofalwr, felly cariwch ymlaen fel yr ydych (Gofalwr)

Medraf ymdopi cymaint yn well ar ôl mynychu pob wythnos, mae’n rhoi rhai oriau o fod yn unig ofalwr,‘rwy’n cael cymaint o gefnogaeth gan y grŵp, y staff a’r asiantaethau (Gofalwr)

‘Rwy’n edrych ‘mlaen i ddod yma, a dwi’n holi pob dydd os yw’r grŵp arno. (Person sydd â dementia)

Mae’r grŵp yma wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi (Gofalwr)