Beth ‘rydym yn neud …
Mae grŵp Gofalwyr RAY yn le cynnes a chyfeillgar i ofalwyr o rhywun sydd â dementia sydd naill ai wedi mynd i gartref preswyl neu wedi marw. Mae’r grŵp yn cwrdd pob wythnos ar ddydd Iau o 11yb i 2yp ac mae’n grŵp cefnogi cymheiriaid i helpu’r rhai sydd a’u rôl gofalu wedi newid i addasu i sefyllfa newydd. Cynhelir y grŵp gan aelodau staff RAY, ac mae ganddynt fynediad i asiantaethau allanol sy’n medru cynnig cefnogaeth mwy arbenigol.
Trefnir gweithgareddau i gwrdd ag anghenion a diddordebau’r rhai sy’n mynychu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai celf a chrefft, adloniant creadigol a teithiau achlysurol i lefydd o ddidordeb lleol, chwarae gêmau.
Y manteision
- Cyfle i chwrdd ag eraill sy’n rhannu’r un profiadau
- Cyfeillgarwch a chefnogaeth
- Cysylltiadau ag asiantaethau sy’n medru daraparu cyngor a chymorth wedi’u teilwra.
- Cyfle i ymgysylltu mewn gweithgareddau grŵp therapiwtig a gwibdeithiau.
- Tîm o staff ardderchog sy’n creu awyrgylch groesawgar a chynnes.
Dyfyniadau…
Diolch yn fawr am eich cyfeillgarwch,cynhesrwydd a chefnogaeth. Mae’n golygu llawer iawn i ni. (Gofalwr)
‘Rwy’n teimlo cymaint o rhyddhad fod mam wedi ffeindio eich grŵp, mae wedi rhoi cymaint o gefnogaeth iddi, ac yn rhoi i ni,ei theulu, rhywfaint o dawelwch meddwl gan wybod nad yw hi’n teimlo mor unig.(Merch sy’n byw i ffwrdd)
Nid wyf erioed wedi byw ar ben fy hunan o’r blaen, felly (mae person sydd â dementia yn mynd i ofal preswyl)yn newid mawr i mi. ‘Rwy’n brwydro gyda chymaint o emosiynau mae’n anodd iawn, ond mae’n helpu llawer i fedru siarad ag eraill yn yr un sefyllfa.(Gofalwr)

