Beth ‘rydym yn neud …
Mae’r tîm o weithwyr chwarae cymwysedig RAY yn mynd a’n Fan Chwarae RAY allan ac o gwmpas y Sir gyfan gan ddarparu sesiynau chwarae mynediad agored yn yr awyr agored yn bennaf, yn defnyddio cymysgedd o adnoddau cost isel/dim cost.
Y manteision
- Ymdeimlad da o gymuned; staff cyfeillgar a chymwynasgar
- Mae chwarae wedi cael ei ddangos i wella iechyd a lles plant trwy hwyl, cymdeithasu a bod yn gorfforol actif.
- Mae ein sesiynau cymunedol yn dod â theuluoedd at eu gilydd.
- Mae ein sesiynau chwarae ysgol yn cynyddu gweithgaredd corfforol ar y maes chwarae, yn cynyddu chwarae rhwng oedrannau a rhywiau, a cynyddu chwarae cydweithredol.
- Mae Sesiwn Chwarae RAY yn dangos sut y medrwch greu lle chwarae cyffrous gydag adnoddau sydd naill ai am ddim neu gost isel, yn ddefnyddiol i deuluoedd pan fydd cyllid dan bwysau.
- Mae chwarae dan arweiniad plant sy’n digwydd yn ystod sesiynau RAY wedi ei ddangos i helpu plant sy’n gwynebu heriau adref neu yn yr ysgol, ac yn adeiladu eu gwydnwch mewnol a’u gallu i ymdopi.
- Roedd derbyn y garden Nadolig wedi’i ysgrifennu â llaw ac o galon yn wirioneddol hyfryd a roedd y dystysgrif gydag oriau wedi gwirfoddoli hefyd yn sbeshal iawn. ‘Rwyf wedi gwirfoddoli i sawl sefydliad ac mae RAY wir yn dangos eu gwerthfawrogiad i’w gwirfoddolwyr sy’n meddwl llawer.
- ‘Rwy’n credu fod RAY Ceredigion yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i bobl yn yr ardal, hen ac ifanc fel ei gilydd. Yn y grŵp dwi’n gwirfoddoli ynddo, mae’n glir faint o amser maent yn treulio gyda’u gilydd, cymdeithasu hyd yn oed unwaith yr wythnos yn unig, mae’n hynod fuddiol i ddefnyddwyr y gwasanaeth
- ‘Rydych wedi rhoi cipolwg i mi o beth gall ei wneud gyda sefydliad sy’n cael ei gefnogi gan wirfoddolwyr.Mae RAY yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i’r gymuned o ddosbarthiadau a gwybodaeth rhianta i grŵp dementia

